SL(6)664 – Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Rhif 3) (Cymru) 2025

Cefndir a diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 21A i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.

Mae Atodlen 21A yn darparu ar gyfer rhyddhad rhag treth trafodiadau tir ar gyfer trafodiadau cymhwysol o dir mewn safle treth arbennig. O dan baragraff 2 o’r Atodlen honno, mae’r rhyddhad ar hyn o bryd yn gymwys i ardaloedd dynodedig sy’n cynnwys y Porthladd Rhydd Celtaidd[1] a Phorthladd Rhydd Ynys Môn[2].

Mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn y rhyddhad i Barth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam[3], yn weithredol o 21 Tachwedd 2025.

Gweithdrefn

Cadarnhaol drafft

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae Rheoliad 1(2) yn nodi’n benodol bod y Rheoliadau hyn yn dod i rym ar bwynt penodol mewn amser (am 12:01 a.m ar 21 Tachwedd 2025).

Mae'r dyddiad dod i rym italig o dan deitl yr Offeryn Statudol yn nodi “21 Tachwedd 2025”, fodd bynnag, ac yn hepgor yr amser perthnasol.

 

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

2.    Rheol Sefydlog 21.3(i) – ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu i unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn gydnabyddiaeth am unrhyw drwydded neu gydsyniad neu am unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath.

Mae adran 25 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 yn darparu bod rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru dalu symiau a gesglir wrth arfer ei swyddogaethau, gan gynnwys y Dreth Trafodiadau Tir a gesglir, i Gronfa Gyfunol Cymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn rhyddhad safle treth arbennig o'r Dreth Trafodiadau Tir i'r Parth Buddsoddi a nodwyd o 21 Tachwedd 2025 tan 30 Medi 2034.

3.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae paragraff 3.6 o’r Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn nodi:

“Mae’r rhyddhad yn gymhorthdal ar ffurf rhyddhad wedi ei gyfyngu’n ddaearyddol a ddarperir i’r busnesau hynny sy’n prynu tir ac yn bodloni’r amodau cymhwysol yn y safleoedd treth arbennig dynodedig am gyfnod cyfyngedig o amser.  Cyfeiriwyd y Cynllun Rheoli Cymorthdaliadau ar gyfer Parthau Buddsoddi yng Nghymru at yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, yn unol ag adran 31 o Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau 20225, ac fe’i cofrestrwyd ar y gronfa ddata cymorthdaliadau yn unol ag adran 33 o’r Ddeddf honno ar 6 Hydref 2025, Cynllun SC11410.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i’r pwynt adrodd technegol.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

4 Tachwedd 2025



[1] Yr ardaloedd a ddynodwyd gan Lywodraeth y DU yn ardaloedd arbennig gan Reoliadau Dynodi Safleoedd Treth Arbennig (Porthladd Rhydd Celtaidd) 2024/1035 a wnaed ar 16 Hydref 2024.

[2] Yr ardaloedd a ddynodwyd gan Lywodraeth y DU yn ardaloedd arbennig gan Reoliadau Dynodi Safleoedd Treth Arbennig (Porthladd Rhydd Ynys Môn) 2024/1286 a wnaed ar 4 Rhagfyr 2024.

[3] Yr ardaloedd a ddynodwyd gan Lywodraeth y DU yn ardaloedd arbennig gan Reoliadau Dynodi Safleoedd Treth Arbennig (Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam) 2025/1080 a wnaed ar 14 Hydref 2025.